Marie Curie

Rhannwch eu henw

Rhowch wybod pwy ydych chi’n eu cofio

Ar gyfer Diwrnod o Fyfyrdod eleni, rydym wedi creu petal Marie Curie melyn arbennig y gallwch ei ddefnyddio i rannu enw rhywun rydych chi'n ei gofio ar y diwrnod.

Dechrau arni gyda’ch petal

Does dim ffordd gywir neu anghywir o ddefnyddio’r petalau, ond dyma ambell i awgrym ar eich cyfer:

Cadw pethau’n syml

Gallai fod mor syml ag ysgrifennu enw neu addurno petal, ond petaech am adrodd stori rhywun annwyl, mae hynny'n iawn hefyd. Dywedwch wrthym pwy rydych chi'n cofio trwy ei ysgrifennu ar un o'n petalau sydd ar gael i lawrlwytho.

Creu man arbennig

Os ydych chi'n rhan o grŵp cymunedol, ysgol neu weithle sy'n bwriadu nodi y Diwrnod o Fyfyrdod, efallai y buasai’n well gennych guradu man pwrpasol i'r petalau gael eu harddangos. Mae gennym adnoddau y gallwch eu lawrlwytho i'ch helpu i gynllunio a'i greu.

Rhannwch eich petal

Chi sydd i benderfynu sut rydych chi'n rhannu'ch petal - efallai yr hoffech ei arddangos yn ffenestr eich cartref, ysgol, neu weithle, neu os ydych chi am iddo gael ei weld gan gynulleidfa mwy eang, rhannwch lun neu fideo gyda ni ar Instagram neu TikTok gan ddefnyddio #DayOfReflection a tagio @mariecurieuk

Petai’n well gennych, gallwch ddefnyddio'r botymau isod i greu post teyrnged ysgrifenedig ar Facebook, X (Twitter) neu LinkedIn.

Dywedwch wrthym pwy fyddwch chi'n cofio'r Diwrnod o Fyfyrdod hwn...

Angen siarad am farwolaeth neu brofedigaeth? Ffoniwch Linell Gymorth Marie Curie heddiw

Marie Curie