Marie Curie

Cynllunio eich digwyddiad neu weithgaredd myfyriol

Ar y Diwrnod o Fyfyrdod, rydym yn cofio ac yn talu teyrnged i anwyliaid sydd wedi marw, yn enwedig yn ystod y pandemig, pan nad oedd nifer o bobl yn gallu galaru'n yn llawn.

Rydym yn eich annog chi a'r grwpiau cymunedol, yr ysgolion a'r gweithleoedd rydych chi'n rhan ohonynt i gymryd ennyd i fyfyrio yn y ffyrdd sydd yn eich gweddu chi drwy gynllunio eich munud o dawelwch eich hun, neu weithgaredd myfyriol arall.

Ennyd i fyfyrio

Gallwch ddangos eich cefnogaeth ar gyfer Diwrnod o Fyfyrdod mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft: trwy gynnal munud o dawelwch, trwy oleuo'ch adeilad yn felyn, trwy neilltuo amser ar gyfer ennyd neu weddïau myfyriol, trwy gynnal sgwrs neu ddigwyddiad panel am alar neu brofedigaeth, neu drwy ddefnyddio ein lawrlwythiad o betalau i greu arddangosfa.

Beth bynnag yr ydych yn dewis i nodi'r diwrnod, rhowch wybod i ni fel y gallwn ei ychwanegu at ein map digwyddiadau.

Digwyddiadau myfyriol mewn ysgolion

Mae ein pecyn ysgolion yn llawn syniadau disglair i'ch ysgol lawrlwytho ar gyfer Diwrnod o Fyfyrdod.

Er bod y diwrnod a'i wreiddiau yn y pandemig, rydym yn gofyn i ysgolion gyfranogi mewn unrhyw ffordd sy'n addas i'ch cymuned. P'un a yw hynny'n cynllunio sesiwn ehangach ar alar a phrofedigaeth, neu blannu coed er cof am bobl sydd wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Gall cynnal gwers am alar a phrofedigaeth deimlo'n frawychus, felly rydym wedi cynnwys adnoddau i'ch tywys drwy'r sgyrsiau pwysig hyn.

Eleni, rydym yn awgrymu bod digwyddiadau mewn ysgolion yn digwydd yn ystod yr wythnos sy'n arwain at y Diwrnod o Fyfyrdod gan ei fod ar y Sul. Peidiwch ag anghofio rhannu lluniau ar gyfer eich digwyddiadau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol @mariecurieuk.

Digwyddiadau myfyriol mewn gweithleoedd

Yn ystod y pandemig, effeithiwyd ar lawer o bobl gan farwolaeth cydweithiwr, ond ni allant alaru'n iawn ar eu pen eu hunain. Efallai yr hoffech chi drefnu munud o dawelwch i gofio am rywun yr oeddech yn gweithio ochr yn ochr â hwy.

Rydyn ni'n gwybod nad yw rhai gweithleoedd ar agor ar y Sul, felly os nad Dydd Sul Mawrth 3 yw'r diwrnod gorau i chi, mae croeso i chi gynnal eich digwyddiad yn yr wythnos sy'n arwain at y Diwrnod o Fyfyrio.

Gallwch ddod o hyd i fwy o syniadau ac adnoddau yn ein pecyn croeso sydd ar gael i lawrlwytho.

Digwyddiadau myfyriol mewn cymunedau ffydd

I lawer, amlygodd y pandemig bwysigrwydd cymuned. P'un a ydych chi'n perthyn i gymuned ffydd draddodiadol neu'n meddu ar gredoau seciwlar, mae eich canolfannau cymunedol, gurdwara, mosgiau, eglwysi, synagogau a themlau oll o bwys o ran nodi digwyddiadau bywyd, a phob un yn cydnabod colled a phrofedigaeth mewn gwahanol fodd.

Un o amcanion y Diwrnod o Fyfyrdod yw adeiladu etifeddiaeth barhaus o drugaredd a chefnogaeth i eraill ar gyfer y cyfnodau anoddaf. Mae'r rhan fwyaf, os nad pob un, o'n cymunedau yn rhagweithiol wrth ymateb i'r anghenion o'n cwmpas, ond o bosib gallent fod yn llai effeithiol o ran bod yn bresennol gyda'n gilydd a thynnu cryfder o dawelwch a myfyrdod a rennir.

Mae Marie Curie yn edrych ar grwpiau ffydd ledled y DU i arwain trwy annog a chreu lle i'w cymunedau ymuno â’r Diwrnod o Fyfyrdod, wrth i ni gofio'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig a cheisio dathlu eu bywydau. Dewch o hyd i adnoddau i'ch cefnogi i wneud hyn yn ein hadran Lawrlwythiadau.

Gwrandewch ar sioe radio Gaby Roslin ar gyfer y Diwrnod o Fyfyrdod

Cymerwch ennyd i fyfyrio i gerddoriaeth trwy wrando ar Sound Not Silence, rhaglen radio arbennig y darlledwraig a Llysgennad Marie Curie Gaby Roslin. Mae'r sioe 30 munud yn ymroddedig i rannu’r caneuon sy'n dod â ni'n agosach at anwyliaid rydyn ni'n cofio ar y Diwrnod o Fyfyrdod hwn, gan gynnwys ein Cwnselydd Profedigaeth Jane Murray, a'r actor Tom Read Wilson.

Angen siarad am farwolaeth neu brofedigaeth? Ffoniwch Linell Gymorth Marie Curie heddiw

Marie Curie