Marie Curie

"Mi fydda i'n treulio'r Diwrnod o Fyfyrio gyda Mam, yn cofio Dad"

"Mi fydda i'n treulio'r Diwrnod o Fyfyrio gyda Mam, yn cofio Dad"

Ym 2022, cafodd dad Simeon Jackman-Smith, David, brognosis o chwe wythnos, ond bu farw bythefnos yn ddiweddarach. Bydd e a'i fam Harriet yn cofio David.

"Pan oeddwn i'n blentyn, roedd wastad gan Dad yr atebion. Roedd e fel gwyddoniadur symudol!

"Roedd e’n berson mor anhunanol. Rwy'n gwneud llawer o actio, a cyn iddo farw fe ddysgodd fy nhad imi sut i anfonebu. Er ei fod e mor sâl, roedd e dal wedi cael ei liniadur mas er mwyn dangos imi sut mae gwneud, tra bod yna nyrsys yn yr ystafell.

"Mae'r gefnogaeth rydw i a fy mam wedi'i chael ers iddo farw wedi bod yn anhygoel. Rydw i eisiau treulio'r Diwrnod o Fyfyrio gyda fy mam, er mwyn cofio fy nhad."

Fel colli braich

"Pan gollais i nhad, yn gyntaf oll roedd e’n sioc, yna’n dristwch. Yna, roeddwn i’n hollol flin. Rwy'n credu mai dyna pam y galwais i wasanaeth profedigaeth Marie Curie i helpu imi ddeall pethau ychydig yn well.

"Mae'n anodd disgrifio sut beth yw galar. Mae'n teimlo fel colli coes neu fraich. Gallwch chi geisio cael un prosthetig, ond fyddwch chi byth yn cael y peth go iawn yn ôl.

"Roedd siarad â Ben, y gwirfoddolwr cymorth profedigaeth Marie Curie ges i, yn helpu. Rwy'n teimlo ychydig yn well. Roeddwn i eisiau mwy o amser gyda fy nhad. Mae'n anodd symud ymlaen ond rwy'n gwybod un diwrnod, oherwydd y camau rydw i wedi bod yn eu cymryd, ni fydd galar yn feistr arnaf i."

Diagnosis dwbl

"Mae Mam yn fenyw gref, mae hi wedi bod trwyddo gryn dipyn. Collodd hi ei mam pum mlynedd yn ôl a chafodd hi ganser y fron, ond nawr mae hi'n rhydd o hynny."

Bydd mam Simeon, Harriet, hefyd yn myfyrio ar Ddydd Sul 3 Mawrth:

"Roedd David a minnau yn briod am bron i 25 mlynedd. Doeddwn i byth yn meddwl mai fe fydde'n mynd; roeddwn i'n meddwl mai fi fydde gyntaf. Rydw i wedi cael diagnosis o ganser ddwywaith. Roedd Dafydd yn ddyn heini ac iach, ac yn dad da iawn. Cafodd wybod yn 40 oed bod ganddo awtistiaeth ar ôl i Simeon gael diagnosis."

"Roedd fy nhad yn dda iawn i mi," meddai Simeon. "Mae Mam yn uchel ei chloch, a dad oedd yr un tawel. Siaradais ag ef am fy holl broblemau oherwydd roedd y ddau ohonom yn awtistig, felly roedd e'n dda am ddweud wrthyf sut i ddelio â phethau."

Hwyl a chwerthin

"Dwi'n debycach i dân gwyllt ac roedd e'n debycach i gannwyll," meddai Harriet. "Dyna beth fydda i'n ei gofio, a'r chwerthin.

"Mae Simeon a minnau'n hoffi treulio amser gyda'n gilydd i hel atgofion dros fwyd. Heb ffonau symudol! Ry ni'n siarad am David. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw fy mab, a phe bawn i’n drist drwy’r amser, ni fydde fe’n siarad â mi. Ni’n siarad llawer am ei dad.

"Ry ni'n siarad am y pethau digri wnaethon ni. Does dim euogrwydd na difaru, yr unig beth oedd, doedd dim digon o amser gyda'n gilydd. Ry ni’n cael nifer o ddyddiau o fyfyrio. Rydym yn mynd allan gyda'n gilydd i gofio’r dyddiad bu iddo farw, ar ben-blwydd David, ac ein pen-blwydd priodas."

Bod ar gael

"Rydw i eisiau dweud fy stori i bobl," meddai Simeon. "Rwy'n adnabod pobl sydd wedi colli pobl. Rwyf am roi fy llaw allan a dweud, 'Hei, gwrandewch. Dydi chi ddim ar eich pen eich hun. Rydw i yma."

Os ydych chi, neu rywun sy'n agos atoch chi, wedi cael profedigaeth, mae Marie Curie yma i helpu. Ffoniwch ni ar 0800 090 2309 a gofynnwch am wybodaeth am gymorth profedigaeth.

Cedwir pob hawl. Cysylltwch â stories@mariecurie.org.uk am wybodaeth bellach.

Simeon and Harriet Jackman-Smith
Simeon and Harriet Jackman-Smith
13 February 2024

Rhannwch y stori hon ar

Marie Curie