Mae Rachael Logan yn 26 ac yn byw yn Llundain. Ym mis Mai 2019, cafodd ei thad, Andrew, ddiagnosis o ganser terfynol. Bydd hi'n ei gofio ef.
"Fy nhad oedd craig ein teulu, fe oedd yr un y gallech chi fynd ato efo unrhyw broblemau. Roedd yn sarcastig, roedd yn enwog am achwyn, ond fe oedd y tad gorau y gallech chi wedi dymuno i gael erioed. Rydyn ni'n siarad amdano bob dydd. Pan dwi'n mynd am dro dwi'n codi fy ffôn i ffonio fo, hyd yn oed nawr.
"Bu farw Dad ar 6 Mawrth 2020, ychydig cyn i'r byd fynd mewn i gyfnod clo. Roedd yn 58 oed. Dwi mor ddiolchgar bod fy nheulu cyfan wedi gallu bod gydag ef pan fu farw yn Hosbis Marie Curie Belfast.
"Dwi methu dychmygu pa mor anodd bydde hi wedi bod i beidio bod yno."
“Dechreuais fy swydd ym mis Medi 2020 a chefais fy arholiadau cyfrifeg cyntaf, a dwi’m yn gwybod os taw’r pwysau hynny oedd y sbardun, ond mi aeth pethau'n dipyn o chwalfa. Doeddwn i erioed wedi teimlo fel hynny o'r blaen. Doeddwn i methu codi o'r gwely, ac roeddwn i'n crio bob tro roeddwn i'n ceisio siarad.
"Dywedodd fy mam wrtha i 'mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am hyn.' Roeddwn i’n cadw i ddweud wrth fy hunan bydde'n mynd. Ond yn y diwedd ffoniais i Linell Gymorth Marie Curie er mwyn siarad â rhywun, roedden nhw'n wych. Roedd gwybod bod gen i’r rhif i ffonio pe bai pethau'n mynd yn ddrwg iawn eto yn bwysig iawn.
"Es i ymlaen i ddefnyddio gwasanaeth profedigaeth Marie Curie, sydd fel cwnsela. Mae hynny wedi helpu fi gyda fy ngorbryder. I mi, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â gallu siarad am fy meddyliau. Fel arfer, dydych chi ddim am roi baich ar eich teulu neu ffrindiau, yn enwedig os ydyn nhw'n mynd trwy'r un peth. Doeddwn i ddim yn gallu dweud wrth Mam, 'dyma sut dwi'n teimlo.'
"Mae mam yn disgrifio ei hun fel Polo mint, fel petai yna dwll mawr yn ei chanol mae nhad wedi gadael ar ei ôl. Mae pobl yn dweud bod amser yn gwella popeth, ond dwi’m yn credu bod e’n gwneud hynny. Rwy'n credu eich bod chi'n dysgu byw gyda'r twll sydd ar ôl, rydych chi'n dysgu byw yn eich normal newydd.
"Mae galar yn mynd yn drwm iawn weithiau, ac er bod hi’n ymddangos eich bod chi’n ei gario'n dda, dyw e ddim yn golygu nad yw'n drwm iawn, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gymryd eiliad i ddilysu eu teimladau eu hunain a dweud wrthyn nhw eu hunain ac wrth eraill - mewn gwirionedd, mae'n iawn i deimlo'n drist iawn, a mynd efo fe."
"Byddaf yn cofio fy nhad ar y Diwrnod o Fyfyrdod. Mae'n ddiwrnod i stopio a meddwl, ac efallai i deimlo ychydig yn drist. Mae bywyd mor brysur ac mae'n rhedeg i ffwrdd gyda ni i gyd. Rwy'n credu'n arbennig ers y pandemig, mae bywyd wedi bod 100 milltir yr awr.
"Mae hi mor bwysig bod chi'n stopio ac yn cymryd eiliad, yn gyntaf i gofio'r bobl sydd yn eich bywyd, y bobl a gafodd effaith fawr arnoch chi, ond yn ail, i wirio eich hun. Ydw i'n iawn? Oes angen i mi siarad â rhywun? Sut ydw i'n delio â hyn?"
"Mae hi'n braf i ddeall bod pobl eraill yn yr un cwch; y teimlad yna nad ydych chi wedi eich ynysu yn hollol. Nid yw'n ei gwneud hi'n haws, oherwydd mae pawb wedi profi'r poen neu'r golled, ond rydych chi'n gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae yna bobl eraill sy'n deall ychydig o'ch stori, ac efallai eich bod chi'n deall ychydig o'u stori nhw."
Os ydych chi, neu rywun sy'n agos atoch chi, wedi cael profedigaeth, mae Marie Curie yma i helpu. Ffoniwch ni ar 0800 090 2309 a gofynnwch am wybodaeth am gymorth profedigaeth.
Cedwir pob hawl. Cysylltwch â stories@mariecurie.org.uk am wybodaeth bellach.