Mae Allan Scarlett yn gyn-bennaeth ysgol sy’n byw yn Hull. Ym mis Mai 2020, bu farw ei wraig, Teresa, o ganser terfynol. Bydd yn ei chofio hi.
"Roedd Teresa yn anhygoel, cafodd y diagnosis ychydig dros ddwy flynedd cyn iddi farw pan ddywedwyd wrthi hi mai dim ond wyth wythnos oedd ganddi i fyw. Roedd hi'n brwydro tan y diwedd a chawsom ni dwy flynedd yn llawn atgofion.
"Ar y noson bu farw Teresa o ganser y pancreas, roedd Michelle y Nyrs Marie Curie gyda mi ac roedd hi'n wych. Roedd hi fel angel."
"Roedd angladd Teresa ar ei phen-blwydd, 12fed o Fehefin. Bydde hi wedi bod yn 67. A gyda chyfyngiadau Covid ar y pryd, dim ond hyd at 20 o bobl gallen ni wahodd. Dyna fel oedd pethau, ond bydde hi wedi bod yn falch ohono ni.
"O fewn cyfnod o 18 mis roedd pump o fy nheulu agos wedi marw; gan gynnwys fy mam, fy nhad a Teresa. Doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn alaru'n iawn am fy mam, yn enwedig o wybod am ddiagnosis Teresa a’r ffaith nad oedd ganddi hir iawn i fyw. Roedd hi’n gyfnod anodd iawn.
"Pan oeddwn yn siarad am hyn gyda'r Nyrs Michelle ar y noson y bu farw Teresa, roedd hi'n cydnabod bod angen cymorth arnaf ac awgrymodd fy mod yn cysylltu â gwasanaeth cymorth profedigaeth Marie Curie."
"Fe wnaeth cymorth profedigaeth fy helpu, heb amheuaeth. Ffoniodd fy nghynghorwr gwirfoddol Charlie am 8.30 y bore yn union, ac oeddwn i'n gwerthfawrogi hynny’n fawr, roedd hi mewn da bryd bob tro. Wnaeth hi ofyn i mi i 'Siarad am beth bynnag rydych chi am siarad amdano,' y tro cyntaf i ni gael sgwrs, felly dyna wnes i.
"Dwi'n cofio sesiwn pedwar yn arbennig, pan wnes i sôn mod i'n teimlo'n euog a gofynnodd Charlie i mi pam. Dywedais: 'Wel, dwi'n 66 ond mae gen i lawer i'w gynnig a dwi ddim eisiau bod ar ben fy hun. Dydw i ddim yn hoffi byw ar fy mhen fy hun. Dydw i erioed wedi byw ar fy mhen fy hun, yn fy holl fywyd. Dwi ddim eisiau eistedd o gwmpas a mopian ac yn amlwg dwi'n dal i alaru ond dwi'n edrych ymlaen at wneud pethau gwahanol.
A dywedodd Charlie, "Mae hynny'n ysbrydoledig." Ac o'n i wir ddim yn gwybod beth oedd hi'n ei olygu achos o'n i'n teimlo'n euog am deimlo fel 'na. Ond fe wnaeth Charlie fy helpu i ddechrau deall fy mod i wir yn teimlo'n gryf ac yn gallu cario 'mlaen."
"Dwi wastad wedi bod yn agored am fy nheimladau gyda'r bobl agosaf ata i, ond dwi'n meddwl bod y cyfnod clo wedi gwneud i mi rannu teimladau a meddyliau personol gyda hyd yn oed mwy o bobl. Sylweddolais nad yw rhannu ag eraill - y rhai sy'n gyfforddus gyda fi’n cynhyrfu ac yn teimlo’n emosiynol – yn rhywbeth sy'n gwneud i mi edrych yn wan, ond yn gryf mewn gwirionedd.
"Yr ardd oedd yn gwneud i Teresa’n deimlo’n hapus ac yn falch, ac addewais i byddwn i’n gofalu am yr ardd ar ei rhan. Rydw i wedi gwneud hynny ac mae'n gwneud i mi deimlo'n drist ac yn hapus ac yn falch, i gyd ar yr un pryd.
"Bron i bedair blynedd ers i Teresa farw, rydw i bellach yn teimlo'n ddigon cryf i ymgymryd â'r rôl o fod yn Wirfoddolwr Cymorth Profedigaeth Marie Curie. Mae'n rhoi boddhad mawr imi, gwrando ar eraill a rhoi'r lle pwysig hwnnw iddyn nhw archwilio eu teimladau. Mae'r profiad hefyd yn fy helpu i fyfyrio a symud ymlaen ar fy nhaith o fyw ac ymdopi â galar.
"Rwy'n credu ei fod yn helpu i neilltuo Diwrnod o Fyfyrio i bawb. Pa bynnag gam o'r galar y mae rhywun yn mynd trwyddo, nid yw’n mynd i ffwrdd; er mae'n gallu newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae pawb yn cael pen-blwyddi anwyliaid a dyddiadau pan gollon nhw rywun ac maen nhw'n ddyddiau caled. Mae'n gysur gwybod bod pobl eraill yn meddwl am eu hanwyliaid ar y diwrnod hwnnw hefyd. Mae'n fath o gefnogaeth anweledig."
"I mi, mae wedi dod yn ddiwrnod pwysig gan nad dim ond fy ngwraig a fu farw yn y cyfnod byr hwnnw o amser; ond hefyd fy mam, fy nhad, dwy fodryb a fy llysfab.
"Mae'r diwrnod wedi dod yn ddiwrnod arbennig i fi achos wedyn dwi'n gallu meddwl amdanyn nhw gyd, gyda'r holl gariad a galar sydd gen i amdanynt. Mae'r diwrnod yn dod â phob dim at ei gilydd."
Os ydych chi, neu rywun sy'n agos atoch chi, wedi cael profedigaeth, mae Marie Curie yma i helpu. Ffoniwch ni ar 0800 090 2309 a gofynnwch am wybodaeth am gymorth profedigaeth.
Cedwir pob hawl. Cysylltwch â stories@mariecurie.org.uk am wybodaeth bellach.